RHAN 5Gorchuddion wyneb

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddusI119

1

Rhaid i berson (“P”) sy’n teithio fel teithiwr mewn cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.

2

Ond nid yw hyn yn ofynnol—

a

pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);

b

pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).

3

Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—

a

pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;

b

mewn cerbyd sy’n darparu gwasanaeth cludiant i’r ysgol;

c

ar fferi—

i

pan fo’r rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl, neu

ii

pan ellir cynnal pellter o 2 fetr o leiaf rhwng personau ar y rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr;

d

ar long fordeithio;

e

pan ddyrennir caban, man cysgu neu lety tebyg arall i P yn y cerbyd, ar unrhyw adeg pan yw P yn y llety hwnnw—

i

ar ei ben ei hunan, neu

ii

gydag aelodau o aelwyd P neu ofalwr i aelod o’r aelwyd yn unig;

f

pan—

i

caniateir i P, neu pan fo’n ofynnol fel arfer i P, fynd i gerbyd ac aros ynddo wrth ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,

ii

na fo’r cerbyd ei hunan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a

iii

bo P yn aros yn y cerbyd hwnnw;

g

ar gerbyd awyr na chychwynnodd o fan yng Nghymru, ac nad yw i lanio mewn man yng Nghymru;

h

ar lestr nad yw’n docio mewn porthladd yng Nghymru.

4

Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

a

pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 20105);

b

pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);

c

pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P neu i eraill;

d

pan fo P yn teithio i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;

e

pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—

i

cymryd meddyginiaeth;

ii

bwyta neu yfed, os caniateir gwneud hyn yn y cerbyd a bod hynny’n rhesymol angenrheidiol (er enghraifft oherwydd hyd y daith);

f

pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan—

i

swyddog gorfodaeth, neu

ii

gweithredwr y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr.

5

Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i deithwyr am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn ei gerbydau.

6

At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “gwasanaeth cludiant i’r ysgol” yw unrhyw wasanaeth cludiant nad yw ond yn cael ei ddarparu at ddiben—

a

cludo person i’r ysgol ac o’r ysgol neu’r man arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo, neu

b

hwyluso fel arall bresenoldeb person mewn ysgol neu fan arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo.