Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

AdolyguLL+C

2.  Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—

(a)erbyn 7 Ionawr 2021;

(b)o leiaf unwaith yn y cyfnod rhwng 8 Ionawr 2021 a 28 Ionawr 2021;

(c)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 2 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)