RHAN 5Gorchuddion wyneb

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus penodol o dan doI120

1

Rhaid i berson (“P”) wisgo gorchudd wyneb yn ardaloedd cyhoeddus o dan do mangreoedd y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt.

2

Ond nid yw hyn yn ofynnol—

a

pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;

b

pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (3).

3

Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

a

pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);

b

pan fo P yn ymgymryd â gweithgaredd ac y gellir ystyried fod gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y gweithgaredd hwnnw yn peri risg i iechyd P;

c

pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);

d

pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P neu i eraill;

e

pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;

f

pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—

i

cymryd meddyginiaeth;

ii

bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;

g

pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth;

h

pan fo P yn eistedd mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.