Canllawiau ynghylch gofynion i wisgo gorchuddion wynebLL+C
21.—(1) Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae rheoliad 19 yn gymwys iddo roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch—
(a)y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn unol â pharagraffau (1) i (4) o reoliad 19 a gorfodi’r gofyniad hwnnw o dan reoliad 32;
(b)darparu gwybodaeth i deithwyr yn unol â pharagraff (5) o reoliad 19.
(2) O ran Gweinidogion Cymru—
(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a
(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).
(3) Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).
(4) Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan—
(a)paragraff (2) o reoliad 20 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu
(b)paragraff (2) o reoliad 24 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,
i’w trin fel pe baent yn ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 21 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)