RHAN 5Gorchuddion wyneb

Canllawiau ynghylch gofynion i wisgo gorchuddion wynebI121

1

Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae rheoliad 19 yn gymwys iddo roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch—

a

y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn unol â pharagraffau (1) i (4) o reoliad 19 a gorfodi’r gofyniad hwnnw o dan reoliad 32;

b

darparu gwybodaeth i deithwyr yn unol â pharagraff (5) o reoliad 19.

2

O ran Gweinidogion Cymru—

a

cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a

b

rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

3

Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).

4

Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan—

a

paragraff (2) o reoliad 20 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

b

paragraff (2) o reoliad 24 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

i’w trin fel pe baent yn ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.