RHAN 6Darparu addysg mewn ysgol

Darparu addysg mewn ysgol i ddisgyblion penodol pan fo mangreoedd ysgolion ar gauI1I222

1

Mae paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â disgybl perthnasol—

a

os yw mangre’r ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi ar gau i’r disgybl hwnnw am gyfnod o 3 diwrnod ysgol yn olynol o leiaf, a

b

os yw’r cau mewn ymateb i fygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad y coronafeirws.

2

At ddibenion paragraff (1), ystyr “disgybl perthnasol” yw disgybl cofrestredig—

a

y mae’r awdurdod lleol priodol sy’n cynnal yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn ystyried ei fod yn blentyn i weithiwr hanfodol, neu

b

y mae perchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn ystyried y dylai’r disgybl fynd i’r ysgol oherwydd ei hyglwyfedd.

3

Rhaid i berchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi wneud trefniadau i’r disgybl fynd i fangre ysgol at ddiben darparu addysg ar y trydydd diwrnod ysgol a phob diwrnod ysgol dilynol yn y cyfnod pan fydd mangre’r ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi ar gau.

4

Ond nid yw paragraff (3) yn gymwys os, ar y diwrnod ysgol o dan sylw—

a

yw’n ofynnol i’r disgybl beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r disgybl yn byw neu beidio â bod y tu allan i’r man hwnnw yn rhinwedd rheoliad 6(2), 7(2), 8(2)F1neu 9(2) , neu

b

os yw’r disgybl yn ynysu fel arall ar ôl—

i

cael ei hysbysu drwy ap ffôn clyfar Covid 19 y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu

ii

cael ei gynghori i wneud hynny gan berchennog yr ysgol lle y mae’r disgybl wedi ei gofrestru neu gan ddarparwr gofal plant.

5

Wrth benderfynu, at ddibenion paragraff (1)(a), a yw mangre ysgol ar gau i ddisgybl, mae’r ffaith y gall y fangre honno fod ar agor yn rhinwedd paragraff (3) i’w diystyru.

6

Wrth benderfynu a yw disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch nodi plant gweithwyr hanfodol.