Darparu addysg mewn ysgol i ddisgyblion penodol pan fo mangreoedd ysgolion ar gau
22.—(1) Mae paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â disgybl perthnasol—
(a)os yw mangre’r ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi ar gau i’r disgybl hwnnw am gyfnod o 3 diwrnod ysgol yn olynol o leiaf, a
(b)os yw’r cau mewn ymateb i fygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad y coronafeirws.
(2) At ddibenion paragraff (1), ystyr “disgybl perthnasol” yw disgybl cofrestredig—
(a)y mae’r awdurdod lleol priodol sy’n cynnal yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn ystyried ei fod yn blentyn i weithiwr hanfodol, neu
(b)y mae perchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn ystyried y dylai’r disgybl fynd i’r ysgol oherwydd ei hyglwyfedd.
(3) Rhaid i berchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi wneud trefniadau i’r disgybl fynd i fangre ysgol at ddiben darparu addysg ar y trydydd diwrnod ysgol a phob diwrnod ysgol dilynol yn y cyfnod pan fydd mangre’r ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi ar gau.
(4) Ond nid yw paragraff (3) yn gymwys os, ar y diwrnod ysgol o dan sylw—
(a)yw’n ofynnol i’r disgybl beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r disgybl yn byw neu beidio â bod y tu allan i’r man hwnnw yn rhinwedd rheoliad 6(2), 7(2), 8(2) neu 9(2), neu
(b)os yw’r disgybl yn ynysu fel arall ar ôl—
(i)cael ei hysbysu drwy ap ffôn clyfar Covid 19 y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu
(ii)cael ei gynghori i wneud hynny gan berchennog yr ysgol lle y mae’r disgybl wedi ei gofrestru neu gan ddarparwr gofal plant.
(5) Wrth benderfynu, at ddibenion paragraff (1)(a), a yw mangre ysgol ar gau i ddisgybl, mae’r ffaith y gall y fangre honno fod ar agor yn rhinwedd paragraff (3) i’w diystyru.
(6) Wrth benderfynu a yw disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch nodi plant gweithwyr hanfodol.