Swyddogion gorfodaethLL+C
25.—(1) At ddibenion rheoliad 26 ac Atodlen 8, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol—
(a)at ddibenion y Rheoliadau hyn,
(b)o dan reoliad 17(A1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(),
(c)o dan reoliad 21(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu
(d)o dan reoliad 25(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.
(2) At ddibenion rheoliadau 19, 20, 27 i 34, 36 a 47, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw—
(a)cwnstabl,
(b)swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,
(c)person sydd wedi ei ddynodi gan—
(i)Gweinidogion Cymru, neu
(ii)awdurdod lleol,
at ddibenion y Rheoliadau hyn (ond gweler paragraff (3)), neu
(d)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol o dan—
(i)rheoliad 10(11)(c) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020() yn berson perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir gan y rheoliad hwnnw),
(ii)rheoliad 17(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 at ddibenion y Rheoliadau hynny,
(iii)rheoliad 21(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 at ddibenion y Rheoliadau hynny, neu
(iv)o dan reoliad 25(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,
(ond gweler paragraff (3)).
(3) Ni chaiff person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol arfer swyddogaethau swyddog gorfodaeth ond—
(a)mewn perthynas â thorri gofyniad (neu achos honedig o’i dorri) yn—
(i)rheoliad 16(1) neu 17(1)
(ii)paragraff 7(1) neu 8(1) neu (2) o Atodlen 1,
(iii)paragraff 7(1) neu 8(1) neu (2) o Atodlen 2,
(iv)paragraff 7(1), 8(1) neu (2) neu 10(1) o Atodlen 3, neu
(v)paragraff 7(1), 8(1), 9(1) [, 10(1) neu 11(3)] o Atodlen 4, neu
(b)o dan ac yn rhinwedd Atodlen 8.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn