Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Hysbysiadau cydymffurfioLL+C

27.—(1Caiff swyddog gorfodaeth roi hysbysiad cydymffurfio i berson os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod y person yn torri gofyniad yn—

(a)rheoliad 19(5),

(b)paragraff 7(1) neu 8(1) neu (2) o Atodlen 1,

(c)paragraff 7(1) neu 8(1) neu (2) o Atodlen 2,

(d)paragraff 7(1), 8(1) neu (2) neu 10(1) o Atodlen 3, neu

(e)paragraff 7(1), 8(1), 9(1) [F1, 10(1) neu 11(3)] o Atodlen 4.

(2Caiff hysbysiad cydymffurfio bennu mesurau y mae rhaid i’r person y’i rhoddir iddo eu cymryd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn rhl. 27(1)(e) wedi eu hamnewid (22.12.2020 dod i rym am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1623), rhlau. 1(2), 2(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 27 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)