Pwerau symud a gwasgaru: cynulliadau a bod oddi cartrefLL+C
28.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat yn groes i—
(a)paragraff 1(1) o Atodlen 1,
(b)paragraff 1(1) o Atodlen 2,
(c)paragraff 1(1) o Atodlen 3, neu
(d)paragraff 2(1) o Atodlen 4.
(2) Caiff y swyddog gorfodaeth—
(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;
(b)os oes gan y swyddog sail resymol dros amau nad yw’r person yn byw yn yr annedd—
(i)cyfarwyddo’r person i ymadael â’r annedd;
(ii)symud y person o’r annedd.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cymryd rhan mewn cynulliad mewn man ac eithrio annedd breifat yn groes i—
(a)paragraff 2(1) o Atodlen 1,
(b)paragraff 2(1) neu (3) o Atodlen 2,
(c)paragraff 2(1) neu (3) o Atodlen 3, neu
(d)paragraff 2(1) o Atodlen 4.
(4) Caiff y swyddog gorfodaeth—
(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;
(b)cyfarwyddo’r person i ymadael â’r man lle y mae’r cynulliad yn digwydd;
(c)symud y person o’r man hwnnw.
(5) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person i ffwrdd o’r man lle y mae’r person yn byw yn groes i baragraff 1(1) o Atodlen 4, caiff y swyddog—
(a)cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i’r man lle y mae’r person yn byw;
(b)symud y person i’r man hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 28 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)