xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
31.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”)—
(a)yn cyflawni trosedd o dan reoliad 39(2);
(b)yn ymwneud â threfnu digwyddiad yn groes i (neu y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried ei fod yn debygol o fod yn groes i) baragraff 4 o Atodlen 1, paragraff 4 o Atodlen 2, paragraff 4 o Atodlen 3 neu baragraff 4 o Atodlen 4.
(2) Caiff y swyddog gorfodaeth—
(a)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;
(b)symud P o leoliad y digwyddiad;
(c)cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;
(d)symud unrhyw berson o’r digwyddiad;
(e)pan na fo’r digwyddiad wedi dechrau—
(i)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal y digwyddiad rhag digwydd;
(ii)symud P o leoliad arfaethedig y digwyddiad.
(3) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn ymwneud â threfnu digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi o dan baragraff 5 o Atodlen 1, paragraff 5 o Atodlen 2, paragraff 5 o Atodlen 3 neu baragraff 5 o Atodlen 4 y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn cael ei gynnal yn groes i ofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir mewn perthynas â’r awdurdodiad, caiff y swyddog—
(a)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r gofyniad, y cyfyngiad neu’r amod arall;
(b)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;
(c)symud P o leoliad y digwyddiad;
(d)cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;
(e)symud unrhyw berson o’r digwyddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 31 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)