Pwerau sy’n ymwneud â digwyddiadauLL+C
31.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”)—
(a)yn cyflawni trosedd o dan reoliad 39(2);
(b)yn ymwneud â threfnu digwyddiad yn groes i (neu y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried ei fod yn debygol o fod yn groes i) baragraff 4 o Atodlen 1, paragraff 4 o Atodlen 2, paragraff 4 o Atodlen 3 neu baragraff 4 o Atodlen 4.
(2) Caiff y swyddog gorfodaeth—
(a)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;
(b)symud P o leoliad y digwyddiad;
(c)cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;
(d)symud unrhyw berson o’r digwyddiad;
(e)pan na fo’r digwyddiad wedi dechrau—
(i)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal y digwyddiad rhag digwydd;
(ii)symud P o leoliad arfaethedig y digwyddiad.
(3) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn ymwneud â threfnu digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi o dan baragraff 5 o Atodlen 1, paragraff 5 o Atodlen 2F1... neu baragraff 5 o Atodlen 4 y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn cael ei gynnal yn groes i ofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir mewn perthynas â’r awdurdodiad, caiff y swyddog—
(a)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r gofyniad, y cyfyngiad neu’r amod arall;
(b)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;
(c)symud P o leoliad y digwyddiad;
(d)cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;
(e)symud unrhyw berson o’r digwyddiad.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 31(3) wedi eu hepgor (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 31 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)