RHAN 7Gorfodi
Pwerau sy’n ymwneud â digwyddiadauI131
1
Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”)—
a
yn cyflawni trosedd o dan reoliad 39(2);
2
Caiff y swyddog gorfodaeth—
a
cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;
b
symud P o leoliad y digwyddiad;
c
cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;
d
symud unrhyw berson o’r digwyddiad;
e
pan na fo’r digwyddiad wedi dechrau—
i
cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal y digwyddiad rhag digwydd;
ii
symud P o leoliad arfaethedig y digwyddiad.
3
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn ymwneud â threfnu digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi o dan baragraff 5 o Atodlen 1, paragraff 5 o Atodlen 2F2...F1, paragraff 6 o Atodlen 3 neu baragraff 5 o Atodlen 4 y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn cael ei gynnal yn groes i ofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir mewn perthynas â’r awdurdodiad, caiff y swyddog—
a
cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r gofyniad, y cyfyngiad neu’r amod arall;
b
cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;
c
symud P o leoliad y digwyddiad;
d
cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;
e
symud unrhyw berson o’r digwyddiad.