RHAN 7Gorfodi

Gorfodi gofynion gorchuddion wynebI132

1

Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 19(1), caiff y swyddog—

a

cyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw;

b

symud y person o’r cerbyd.

2

Pan fo gan—

a

gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,

b

cyflogai i’r gweithredwr, neu

c

person sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr,

sail resymol dros amau bod person ar fin torri rheoliad 19(1), caiff y gweithredwr, y cyflogai neu’r person awdurdodedig gyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw.

3

Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 20(1), caiff y swyddog—

a

cyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r fangre;

b

symud y person o’r fangre.