Gorfodi gofynion gorchuddion wynebLL+C
32.—(1) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 19(1), caiff y swyddog—
(a)cyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw;
(b)symud y person o’r cerbyd.
(2) Pan fo gan—
(a)gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,
(b)cyflogai i’r gweithredwr, neu
(c)person sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr,
sail resymol dros amau bod person ar fin torri rheoliad 19(1), caiff y gweithredwr, y cyflogai neu’r person awdurdodedig gyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw.
(3) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 20(1), caiff y swyddog—
(a)cyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r fangre;
(b)symud y person o’r fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 32 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)