RHAN 7Gorfodi

Gorfodi: plant33.

(1)

Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) y caiff y swyddog arfer pŵer mewn cysylltiad ag ef o dan y Rhan hon yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)

caiff y swyddog gyfarwyddo U i gymryd unrhyw gamau gweithredu mewn cysylltiad â P y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol, a

(b)

rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.

(2)

At ddibenion paragraff (1), mae gan U gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan U—

(a)

gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)

cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.