Pŵer mynediadLL+C
34.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre—
(a)os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri yn y fangre, a
(b)os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r gofyniad yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri.
(2) Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1) fynd ag unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’n ymddangos i’r swyddog eu bod yn briodol.
(3) Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—
(a)os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r swyddog ac amlinellu’r diben yr arferir y pŵer ato;
(b)os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.
(4) Ni chaiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat onid yw’r swyddog gorfodaeth yn gwnstabl.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 34 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)