RHAN 8Troseddau a chosbau

PENNOD 1Troseddau

Troseddau sy’n ymwneud â threfnu digwyddiadauI139

1

Mae person sy’n torri gofyniad yn—

a

paragraff 4 o Atodlen 1,

b

paragraff 4 o Atodlen 2,

c

paragraff 4 o Atodlen 3,

d

paragraff 4 o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

2

Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddoriaeth mawr sydd heb ei drwyddedu yn cyflawni trosedd.

3

At ddibenion paragraff (2)

a

ystyr “digwyddiad cerddoriaeth mawr sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—

i

y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol ynddo,

ii

lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a

iii

lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—

aa

y mae’n weithgaredd trwyddedadwy (o fewn ystyr “licensable activity” yn Neddf Trwyddedu 200311), a

bb

nas cynhelir o dan awdurdodiad nac yn unol ag awdurdodiad (o fewn yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno);

b

nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol mawr sydd heb ei drwyddedu os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo.