RHAN 8LL+CTroseddau a chosbau

PENNOD 1LL+CTroseddau

Troseddau sy’n ymwneud â threfnu digwyddiadauLL+C

39.—(1Mae person sy’n torri gofyniad yn—

(a)paragraff 4 o Atodlen 1,

(b)paragraff 4 o Atodlen 2,

(c)paragraff 4 o Atodlen 3,

(d)paragraff 4 o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

(2Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddoriaeth mawr sydd heb ei drwyddedu yn cyflawni trosedd.

(3At ddibenion paragraff (2)

(a)ystyr “digwyddiad cerddoriaeth mawr sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—

(i)y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol ynddo,

(ii)lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a

(iii)lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—

(aa)y mae’n weithgaredd trwyddedadwy (o fewn ystyr “licensable activity” yn Neddf Trwyddedu 2003(1)), a

(bb)nas cynhelir o dan awdurdodiad nac yn unol ag awdurdodiad (o fewn yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno);

(b)nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol mawr sydd heb ei drwyddedu os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 39 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)