Troseddau sy’n ymwneud â gofynion ynysu ac olrhain cysylltiadauLL+C
40.—(1) Mae person sydd—
(a)yn torri gofyniad yn rheoliad 6(2), 7(2), 8(2), 9(2) F1... neu 12, neu
(b)heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 6(3), 7(3), 8(3) [F2neu 9(3)] ,
yn cyflawni trosedd.
(2) Mae’n drosedd i berson (“P”) roi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau—
(a)o dan reoliad 6(3), 7(3), 8(3) [F3neu 9(3)] , neu
(b)ynghylch—
(i)gwybodaeth gyswllt P, neu
(ii)personau y gall P fod wedi dod i gysylltiad agos â hwy,
pan fo P yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu pan fo P yn ddi-hid o ran a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.
(3) Ym mharagraff (2), mae i “cysylltiad agos” yr un ystyr ag yn Rhan 3.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 40(1)(a) wedi eu hepgor (27.2.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 (O.S. 2021/210), rhlau. 1(2), 2(7)(a)(i)
F2Geiriau yn rhl. 40(1)(b) wedi eu hamnewid (27.2.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 (O.S. 2021/210), rhlau. 1(2), 2(7)(a)(ii)
F3Geiriau yn rhl. 40(2)(a) wedi eu hamnewid (27.2.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 (O.S. 2021/210), rhlau. 1(2), 2(7)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 40 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)