RHAN 8Troseddau a chosbau

PENNOD 1Troseddau

Troseddau sy’n ymwneud â busnesau a gwasanaethauI142

1

Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn—

a

paragraffau 7(1) neu 8(1) neu (2) o Atodlen 1,

b

paragraffau 7(1) neu 8(1) neu (2) o Atodlen 2,

c

paragraffau 7(1), 8(1) neu (2) neu 10(1) o Atodlen 3, neu

d

paragraffau 7(1), 8(1), 9(1)F1, 10(1) neu 11(3) o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

2

Mae gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sydd, heb esgus rhesymol, yn torri’r gofyniad yn rheoliad 19(5) yn cyflawni trosedd.

3

Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chymryd y mesurau a bennir mewn hysbysiad gwella mangre a ddyroddir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 8 o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad yn cyflawni trosedd.

4

Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri paragraff 3(1) o Atodlen 8 yn cyflawni trosedd.

5

Mae person sydd—

a

yn torri paragraff 3(2) o Atodlen 8, neu

b

heb esgus rhesymol, yn tynnu, yn cuddio neu’n difrodi hysbysiad neu arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan baragraff 7(2)(a) o’r Atodlen honno,

yn cyflawni trosedd.