xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
42.—(1) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn—
(a)[F1paragraff 7(1)] o Atodlen 1,
(b)[F2paragraff 7(1)] o Atodlen 2,
(c)paragraffau 7(1), 8(1) neu [F39(1)] o Atodlen 3, neu
(d)paragraffau 7(1), 8(1), 9(1) [F4, 10(1) neu 11(3)] o Atodlen 4,
yn cyflawni trosedd.
(2) Mae gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sydd, heb esgus rhesymol, yn torri’r gofyniad yn rheoliad 19(5) yn cyflawni trosedd.
(3) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chymryd y mesurau a bennir mewn hysbysiad gwella mangre a ddyroddir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 8 o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad yn cyflawni trosedd.
(4) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri paragraff 3(1) o Atodlen 8 yn cyflawni trosedd.
(5) Mae person sydd—
(a)yn torri paragraff 3(2) o Atodlen 8, neu
(b)heb esgus rhesymol, yn tynnu, yn cuddio neu’n difrodi hysbysiad neu arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan baragraff 7(2)(a) o’r Atodlen honno,
yn cyflawni trosedd.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 42(1)(a) wedi eu hamnewid (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(10)(a)
F2Geiriau yn rhl. 42(1)(b) wedi eu hamnewid (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(10)(b)
F3Gair yn rhl. 42(1)(c) wedi ei amnewid (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(10)(c)
F4Geiriau yn rhl. 42(1)(d) wedi eu hamnewid (22.12.2020 dod i rym am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1623), rhlau. 1(2), 2(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 42 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)