RHAN 8Troseddau a chosbau
PENNOD 1Troseddau
Rhwystro a thorri cyfarwyddydau a hysbysiadau cydymffurfioI143
1
Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.
2
Mae person sydd, heb esgus rhesymol—
a
yn torri cyfarwyddyd a roddir—
i
gan swyddog gorfodaeth o dan Ran 7, neu
ii
gan weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr, neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr, o dan reoliad 32(2), neu
b
yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 27(1),
yn cyflawni trosedd.