Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Troseddau a gyflawnwyd gan gyrff corfforedig etc.LL+C

46.—(1Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig—

(a)wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,

mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

(3Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.

(4Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.

(5Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(1) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(2) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.

(6Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o asedau’r bartneriaeth.

(7Mae dirwy a osodir ar gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei euogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 46 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)