Swm cosb benodedig: cyffredinolLL+C
48.—(1) Oni bai bod rheoliad 49, [49A,] 50, 51 neu 52 yn gymwys, swm cosb benodedig yw—
(a)£60, neu
(b)os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hybysiad, £30.
(2) Ond os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig o’r fath iddo eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—
(a)nid yw paragraff (1) yn gymwys, a
(b)y swm a bennir fel y gosb benodedig yw—
(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £120;
(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £240;
(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £480;
(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £960;
(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir wedi hynny, £1,920.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—
(a)hysbysiad cosb benodedig pan fo swm y gosb benodedig wedi ei bennu o dan y rheoliad hwn;
(b)hysbysiad cosb benodedig o dan—
(i)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,
(ii)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 21(7A) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,
(iii)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 31(8) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,
(iv)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 39, 40, 41 neu 42 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,
(v)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020().
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn