RHAN 8Troseddau a chosbau

PENNOD 2Cosbau penodedig

Swm cosb benodedig: troseddau sy’n gysylltiedig â busnesI152

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 42(1), (2), (3) neu (4) (“trosedd busnes honedig”).

2

Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig, swm y gosb benodedig yw £1,000.

3

Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—

a

nid yw paragraff (2) yn gymwys, a

b

swm y gosb benodedig yw—

i

yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £2,000;

ii

yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £4,000;

iii

yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir wedi hynny, £10,000.

4

Ym mharagraff (3), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—

a

hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig;

b

hysbysiad cosb benodedig o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 y mae rheoliad 42 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo.