Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 8LL+CTroseddau a chosbau

PENNOD 3LL+CAchosion

ErlynLL+C

56.—(1Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan—

(a)y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus,

(b)unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru, neu

(c)mewn perthynas ag achos am [F1drosedd a grybwyllir ym mharagraff (1A)], awdurdod lleol.

[F2(1A) Y troseddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(c) yw—

(a)trosedd o dan reoliad 42 ac eithrio trosedd o dan baragraff (2) o’r rheoliad hwnnw;

(b)trosedd o dan reoliad 43(1) pan fo’r person sy’n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn swyddog gorfodaeth sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol;

(c)trosedd o dan reoliad 43(2)(a)(i) neu (b) pan fo’r swyddog gorfodaeth sy’n rhoi’r cyfarwyddyd neu’r hysbysiad cydymffurfio yn berson sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol.]

(2Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan—

(a)rheoliad 14 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

(b)rheoliad 22 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,

(c)rheoliad 32 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

(d)rheoliad 46 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi o dan y rheoliad hwn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 56 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)