Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Newidiadau dros amser i: Adran 57

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/03/2021

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 27/02/2021. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Close

Statws

Rydych yn edrych ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth fel yr oedd ar bwynt penodol mewn amser. Mae fersiwn ddiweddarach o hyn neu ddarpariaeth, gan gynnwys newidiadau ac effeithiau dilynol, yn disodli'r fersiwn hon.

Sylwer bod y term darpariaeth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – fel Rhan, Pennod neu adran.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

DehongliLL+C

57.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(a)“mae i “alcohol” yr ystyr a roddir i “alcohol” gan adran 191 o Ddeddf Trwyddedu 2003(1);

(b)ystyr “seremoni briodas arall” yw seremoni—

(i)sy’n seiliedig ar ffydd neu gred person, neu ei ddiffyg cred, i nodi uniad dau o bobl, ac eithrio seremoni at ddibenion gweinyddiad priodas neu ffurfio partneriaeth sifil,

(ii)a gynhelir mewn mangre reoleiddiedig, a

(iii)a drefnir gan sefydliad elusennol, llesiannol neu ddyngarol;

(c)ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan fo—

(i)hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(2),

(ii)y gofal yn rhan o ddarparu gwasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu

(iii)y gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(3);

(d)ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed;

(e)ystyr “gwybodaeth gyswllt”, mewn perthynas â pherson, yw enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigon i alluogi cysylltiad â’r person, (gan gynnwys rhif ffôn, ac, mewn perthynas â pherson mewn mangre reoleiddiedig, y dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y fangre);

(f)ystyr “swyddog olrhain cysylltiadau” yw—

(i)person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen at ddibenion y gwasanaeth iechyd (o fewn ystyr “the health service” yn adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(4) neu adran 108 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(5));

(ii)person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan awdurdod lleol,

sydd wedi ei ddynodi at ddibenion Rhan 3 gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru(6) neu awdurdod lleol;

(g)ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

[F1(h)ystyr “athletwr elît” yw unigolyn—

(i)sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,

(ii)sydd wedi ei ddynodi’n athletwr elît gan Gyngor Chwaraeon Cymru at ddibenion—

(aa)y Rheoliadau hyn,

(bb)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

(cc)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,

(dd)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

(ee)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

(iii)sy’n “mabolgampwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau) (Pob Haen) (Lloegr) 2020,

(iv)sy’n “mabolgampwr proffesiynol” o fewn yr ystyr a roddir i “professional sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cyfyngiadau a Gofynion) (Lefelau Lleol) (Yr Alban) 2020, neu

(v)sy’n “athletwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite athlete” gan baragraff 39(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Gogledd Iwerddon) 2020;]

(i)ystyr “digwyddiad chwaraeon elît” yw digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo;

(j)ystyr “gorchudd wyneb” yw gorchudd o unrhyw fath sy’n gorchuddio trwyn a cheg person;

(k)ystyr “busnes bwyd a diod” yw—

(i)bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau);

(ii)tafarndai;

(iii)caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau);

(l)ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—

(i)wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

(ii)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

(m)ystyr “llety gwyliau neu lety teithio” yw llety mewn—

(i)safleoedd gwersylla;

(ii)safleoedd gwyliau;

(iii)gwestai a llety gwely a brecwast;

(iv)llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio);

(n)ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(o)mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989(7);

(p)mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;

(q)mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;

(r)ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus” yw gwasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd ar gyfer cludo teithwyr ar ffordd, ar reilffordd, ar dramffordd, yn yr awyr neu ar y dŵr;

(s)mae i “mangre reoleiddiedig” yr ystyr a roddir gan reoliad 15(1);

(t)ystyr “ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau” yw—

(i)ardal o Loegr y pennir neu y disgrifir am y tro yn Rhan 2 o Atodlen 4 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau) (Pob Haen) (Lloegr) 2020(8) ei bod o fewn yr ardal Haen 3; [F2neu o fewn yr ardal Haen 4]

(ii)ardal o’r Alban a bennir am y tro yn y tabl yn Atodlen 6 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cyfyngiadau a Gofynion) (Lefelau Lleol) (Yr Alban) 2020(9), pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel 3 neu Lefel 4;

(iii)Gogledd Iwerddon;

(u)ystyr “aelwyd un oedolyn” yw—

(i)aelwyd sydd ag 1 oedolyn (ac unrhyw nifer o blant), neu

(ii)aelwyd sydd ag—

(aa)1 oedolyn sydd â chyfrifoldebau gofalu am 1 oedolyn arall neu ragor ar yr aelwyd,

(bb)yr oedolyn neu’r oedolion y gofelir amdanynt,

(cc)dim oedolion eraill, a

(dd)unrhyw nifer o blant;

(v)mae “cerbyd” yn cynnwys awyren, car cebl, trên, tram a llestr;

(w)mae “person hyglwyf” yn cynnwys—

(i)unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;

(ii)unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol;

(iii)unrhyw berson sy’n feichiog;

(iv)unrhyw blentyn;

(v)unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(10).

(2At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio yn unol â pharagraff (1)(l), mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—

(a)y person sy’n berchen ar y safle, neu

(b)person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(11) yn gymwys iddo.

(3Yn y Rheoliadau hyn, o ran cyfeiriadau at “annedd breifat”—

(a)maent yn cynnwys cwch preswyl ac unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, tŷ allan neu unrhyw atodyn arall i’r annedd;

(b)nid ydynt yn cynnwys y canlynol—

(i)llety gwyliau neu lety teithio;

(ii)llety mewn gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, o fewn yr ystyr a roddir i’r termau hynny gan Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

(iii)llety cyfiawnder troseddol.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae cynulliad pan fydd dau neu ragor o bobl yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd;

(b)mae digwyddiad yn achlysur—

(i)sydd wedi ei gynllunio neu ei amserlennu at ddiben penodol, a

(ii)pan fo unrhyw nifer o bobl yn yr un man at y diben hwnnw, pa un a ydynt yn cymryd rhan mewn cynulliad ai peidio.

(5At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae mangre o dan do os yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 2 o Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007(12);

(b)mae mangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol pan fo awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi i’r fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, ac mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno.

(6At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae mangre sinema neu theatr yn sinema o sedd cerbyd neu’n theatr o sedd cerbyd—

(a)os yw’r fangre yn yr awyr agored, a

(b)os o ran personau sy’n mynd i arddangosiad ffilm neu berfformiad yn y fangre—

(i)ni chânt ond gwneud hynny mewn cerbyd caeedig, a

(ii)ni chânt, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, adael y cerbyd tra byddant yn y fangre.

(7At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gweithgaredd “wedi ei drefnu”—

(a)os yw wedi ei drefnu gan—

(i)busnes,

(ii)corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, llesiannol, addysgol neu ddyngarol,

(iii)clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu

(iv)corff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall, a

(b)os yw’r person sy’n ei drefnu wedi—

(i)cynnal asesiad risg a fyddai’n bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(13), pa un a yw’r person yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hynny ai peidio, a

(ii)cydymffurfio â gofynion rheoliadau 16 ac 18(1).

(8At ddibenion paragraff (7)(b)

(a)mae rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gymwys fel pe bai’r gweithgaredd yn ymgymeriad a wneir gan y person sy’n ei drefnu;

(b)mae rheoliad 16 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai—

(i)y man lle y mae’r gweithgaredd yn digwydd yn fangre reoleiddiedig at ddibenion y rheoliad hwnnw, a

(ii)y person sy’n trefnu’r gweithgaredd oedd y person cyfrifol mewn perthynas â’r fangre reoleiddiedig honno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 57 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

(1)

Diwygiwyd adran 191 gan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 (p. 3) ac O.S. 2006/2407.

(6)

Sefydlwyd gan O.S. 2009/2058 (Cy. 177).

(7)

1989 p. 41. Gweler Rhan 1 o’r Ddeddf, y mae diwygiadau amrywiol wedi eu gwneud iddi, gan gynnwys gan Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 (p. 22) ac O.S. 2019/1458.

(8)

O.S. 2020/1374, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1533 ac O.S. 2020/1572.

(9)

O.S.A. 2020/344, fel y’i diwygiwyd gan O.S.A. 2020/347, O.S.A. 2020/374, O.S.A. 2020/389 , O.S.A. 2020/392, O.S.A. 2020/400, O.S.A. 2020/415 ac O.S.A. 2020/427.

(10)

Diwygiwyd adran 60 gan adran 65 o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).

(11)

2013 dccc 6, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).

(13)

O.S. 1992/3242. Diwygiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2005/1541, O.S. 2015/21 ac O.S. 2015/1637.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources