RHAN 3Gofyniad i ynysu etc.

PENNOD 1Gofyniad i ynysu etc. pan fo person yn cael canlyniad positif am y coronafeirws neu wedi dod i gysylltiad agos â pherson o’r fath

Gofyniad i ynysu: oedolyn â’r coronafeirwsI16

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

2

Ni chaiff O ymadael â’r man lle y mae O yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad O oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

3

Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i O hysbysu’r swyddog—

a

am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae O yn byw, a

b

am gyfeiriad y man hwnnw.

4

Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

5

Ond pan fo O yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd symptomau gyntaf, diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae O yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd y symptomau gyntaf.