Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: oedolynLL+C

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi dod i gysylltiad agos â pherson (“C”) sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

(2Ni chaiff O ymadael â’r man lle y mae O yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad O oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

(3Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i O hysbysu’r swyddog am gyfeiriad y man lle y mae O yn byw.

(4Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth O i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(5Ond pan fo O yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad O yw—

(a)pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf;

(b)pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)