RHAN 3Gofyniad i ynysu etc.

PENNOD 1Gofyniad i ynysu etc. pan fo person yn cael canlyniad positif am y coronafeirws neu wedi dod i gysylltiad agos â pherson o’r fath

Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: plentynI19

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi dod i gysylltiad agos â pherson (“C”) sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

2

Ni chaiff P ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

3

Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i O hysbysu’r swyddog am gyfeiriad y man lle y mae P yn byw.

4

Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth P i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

5

Ond pan fo P yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad P yw—

a

pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, neu

b

pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.