ATODLEN 1Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1

RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddusI12

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd ac eithrio mewn annedd breifat—

a

o dan do, neu yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig, sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd;

b

yn yr awyr agored mewn mangre nad yw’n fangre reoleiddiedig, sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig.

2

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (1), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed, neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

3

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.

4

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

i

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

5

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

d

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

F1e

cymryd rhan mewn cynulliad o dan do o ddim mwy na 50 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, neu gynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 100 o bobl mewn mangre o’r fath, heb gyfrif (yn y naill achos na’r llall) bersonau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

i

dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

ii

dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

f

mynd i addoldy;

g

athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

h

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

i

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso digwyddiad o’r fath—

i

nad oes mwy na 50 o bobl yn bresennol ynddo, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

ii

nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed ynddo;

j

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso digwyddiad o’r fath—

i

nad oes mwy na 100 o bobl yn bresennol ynddo, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, F2oni bai bod y gweithgaredd wedi ei drefnu at ddibenion protestio, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 a

ii

nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed ynddo;

k

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);

l

mynd i ddigwyddiad neu hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5.