ATODLEN 1Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1
RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull
Aelwydydd estynedig
3.
(1)
Caiff hyd at 3 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.
(2)
(3)
Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid F2i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.
(4)
Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F3ar unrhyw un adeg.
(5)
Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—
(a)
paragraff 3 o Atodlen 2,
(b)
paragraff 3 o Atodlen 3, neu
F4(ba)
paragraff 4 o Atodlen 3A,
(c)
paragraff 3 o Atodlen 4,
mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.
(6)
Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd F5... yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
F6(6A)
Mae is-baragraff (6B) yn gymwys—
(a)
pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a
(b)
pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.
(6B)
Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)
mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a
(b)
mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (6) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).
(7)
Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F7oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno .
(8)
Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.
F8(9)
Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—
(a)
aelwyd un oedolyn;
(b)
aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.