Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau
4.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—
(a)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 50 o bobl yn bresennol, neu
(b)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 100 o bobl yn bresennol,
heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5.
(3) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;
(b)mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 50 neu 100 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;
(c)nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—
(i)arddangosiad ffilm;
(ii)perfformiad mewn theatr;
(iii)marchnad;
(iv)gwasanaeth crefyddol;
(v)digwyddiad chwaraeon elît nad yw ond athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yn bresennol ynddo.