ATODLEN 1Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedig

8.—(1Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

(2Pan fo’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, o ran y person sy’n gyfrifol am y fangre—

(a)rhaid iddo gau’r fangre (i gwsmeriaid) am neu cyn 10.20 p.m. bob dydd, a

(b)ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.

(3Er gwaethaf is-baragraff (2), caiff sinema neu theatr gau’n hwyrach na 10.20 p.m. ond dim ond at ddiben gorffen—

(a)arddangos ffilm, neu

(b)perfformiad,

sy’n dechrau cyn 10.00 p.m.

(4Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys i—

(a)mangre mewn—

(i)porthladd môr;

(ii)maes awyr;

(iii)sefydliad addysgol;

(b)ffreuturau yn y gweithle.

(5O ran ei gymhwysiad i fangre llety gwyliau neu lety teithio, nid yw is-baragraff (2) ond yn gymwys i’r rhannau hynny o’r fangre lle y gwerthir neu y cyflenwir alcohol i’w yfed yn y fangre.

(6Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn caniatáu i’r fangre fod ar agor, nac i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi, yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.

(7Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae is-baragraffau (2) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.