Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: RHAN 2

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 26/04/2021

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/01/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

RHAN 2LL+CCyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauLL+C

4.—(1Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

(a)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 50 o bobl yn bresennol, neu

(b)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 100 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5.

(3At ddibenion is-baragraff (1)

(a)nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

(b)mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 50 neu 100 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

(c)nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

(i)arddangosiad ffilm;

(ii)perfformiad mewn theatr;

(iii)marchnad;

(iv)gwasanaeth crefyddol;

(v)digwyddiad chwaraeon elît nad yw ond athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yn bresennol ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Digwyddiadau awdurdodedigLL+C

5.—(1Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal—

(a)lle y mae mwy na 50 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, neu

(b)lle y mae mwy na 100 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored;

(2Nid yw’r cyfeiriadau yn is-baragraff (1) at niferoedd o bobl yn cynnwys personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

(3Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â digwyddiad penodol neu ddisgrifiad penodol o ddigwyddiadau.

(4O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)

(a)rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

(a)awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a

(b)manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â digwyddiad sydd i’w gynnal o dan yr awdurdodiad.

(6Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.

(7Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan baragraff (6)

(a)onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu

(b)onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Back to top

Options/Help