ATODLEN 1Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1
RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau
Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauI24
1
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—
a
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 50 o bobl yn bresennol, neu
b
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 100 o bobl yn bresennol,
heb gyfrif personau F2... sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.
2
3
At ddibenion is-baragraff (1)—
a
nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;
b
mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 50 neu 100 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;
c
nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—
i
arddangosiad ffilm;
ii
perfformiad mewn theatr;
iii
marchnad;
iv
gwasanaeth crefyddol;
v
digwyddiad chwaraeon elît nad yw ond athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yn bresennol ynddo.
Digwyddiadau awdurdodedigI15
1
Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal—
a
lle y mae mwy na 50 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, neu
b
lle y mae mwy na 100 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored;
2
3
Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â digwyddiad penodol neu ddisgrifiad penodol o ddigwyddiadau.
4
O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)—
a
rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a
b
caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—
a
awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a
b
manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â digwyddiad sydd i’w gynnal o dan yr awdurdodiad.
6
Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.
7
Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan baragraff (6)—
a
onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu
b
onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.