- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
7.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal neu ddarparu busnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 9 neu 10—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a
(b)ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath;
(d)defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post.
(3) Pan—
(a)bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
8.—(1) Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.
(2) Pan fo’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, o ran y person sy’n gyfrifol am y fangre—
(a)rhaid iddo gau’r fangre (i gwsmeriaid) am neu cyn 10.20 p.m. bob dydd, a
(b)ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.
(3) Er gwaethaf is-baragraff (2), caiff sinema neu theatr gau’n hwyrach na 10.20 p.m. ond dim ond at ddiben gorffen—
(a)arddangos ffilm, neu
(b)perfformiad,
sy’n dechrau cyn 10.00 p.m.
(4) Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys i—
(a)mangre mewn—
(i)porthladd môr;
(ii)maes awyr;
(iii)sefydliad addysgol;
(b)ffreuturau yn y gweithle.
(5) O ran ei gymhwysiad i fangre llety gwyliau neu lety teithio, nid yw is-baragraff (2) ond yn gymwys i’r rhannau hynny o’r fangre lle y gwerthir neu y cyflenwir alcohol i’w yfed yn y fangre.
(6) Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn caniatáu i’r fangre fod ar agor, nac i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi, yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.
(7) Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae is-baragraffau (2) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.
9. Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.
10. Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982(1)).
1982 p. 30. Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 3 gan adran 27(3) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: