ATODLEN 1Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

Cau mangreoedd a ddefnyddir gan fusnesau a gwasanaethau penodol7

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal neu ddarparu busnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 9 neu 10

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

b

ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath;

d

defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

3

Pan—

a

bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedig8

1

Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

2

Pan fo’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, o ran y person sy’n gyfrifol am y fangre—

a

rhaid iddo gau’r fangre (i gwsmeriaid) am neu cyn 10.20 p.m. bob dydd, a

b

ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.

3

Er gwaethaf is-baragraff (2), caiff sinema neu theatr gau’n hwyrach na 10.20 p.m. ond dim ond at ddiben gorffen—

a

arddangos ffilm, neu

b

perfformiad,

sy’n dechrau cyn 10.00 p.m.

4

Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys i—

a

mangre mewn—

i

porthladd môr;

ii

maes awyr;

iii

sefydliad addysgol;

b

ffreuturau yn y gweithle.

5

O ran ei gymhwysiad i fangre llety gwyliau neu lety teithio, nid yw is-baragraff (2) ond yn gymwys i’r rhannau hynny o’r fangre lle y gwerthir neu y cyflenwir alcohol i’w yfed yn y fangre.

6

Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn caniatáu i’r fangre fod ar agor, nac i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi, yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.

7

Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae is-baragraffau (2) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.

Busnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd

9

Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

10

Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 198232).