ATODLEN 2Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2

Rheoliad 4(3)

RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifatI31

F261

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

F121A

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.

2

Wrth bennu, at ddibenion F2is-baragraff (1A) , nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w ystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed F15, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd , neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

3

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.

4

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

F28b

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

5

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

F9ba

gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, neu’n cael gwasanaethau oddi wrth berson sy’n gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

i

yn byw yn yr un fangre, a

ii

yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.

6

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddusI102

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad—

a

sy’n digwydd yn unman ac eithrio—

i

mewn annedd breifat, neu

ii

mewn llety gwyliau neu lety teithio, a

b

sy’n cynnwys mwy na 4 o bobl, heb gynnwys—

i

unrhyw blant o dan 11 oed, na

ii

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

2

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath—

a

sy’n digwydd o dan do F18..., os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu

i

os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad neu,

ii

os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu

F23aa

sy’n digwydd yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig—

i

os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad neu,

ii

os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu

F10b

sy’n digwydd yn yr awyr agored ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig—

i

os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad, neu

ii

os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

3

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd F7neu’r un aelwyd estynedig.

F253A

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.

3B

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraffau (2)(aa)(i), (2)(b)(ii) a (3A), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd, neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

4

At ddibenion is-baragraffau (1) a (3), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

5

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

i

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

F21j

ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, â chaniatâd darparwr y gwasanaeth.

6

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

d

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

F31e

cymryd rhan mewn cynulliad o dan do o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, neu gynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 50 o bobl mewn mangre o’r fath, heb gyfrif (yn y naill achos na’r llall) bersonau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

i

dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

ii

dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

f

mynd i addoldy;

g

athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

h

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

i

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

i

lle nad yw mwy na F2930 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

ii

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

j

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

F19i

lle nad yw mwy na 50 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, oni bai bod y gweithgaredd wedi ei drefnu at ddibenion protestio, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, a

ii

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

k

cymryd rhan mewn F17gweithgaredd wedi ei drefnu mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio, neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);

l

mynd i ddigwyddiad neu hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5.

7

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Aelwydydd estynedigI13

1

Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

2

Yn ychwanegol at y 2 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd F14anghenion llesiant hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.

3

Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid F34i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.

4

Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F35ar unrhyw un adeg .

F245

Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.

6

Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—

a

paragraff 3 o Atodlen 3, neu

F20aa

paragraff 4 o Atodlen 3A,

b

paragraff 3 o Atodlen 4,

mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.

7

Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd F6... yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

F167A

Mae is-baragraff (7B) yn gymwys—

a

pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

b

pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

7B

Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

b

mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (7) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).

8

Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F1oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno .

9

Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

F310

Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

a

aelwyd un oedolyn;

b

aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.

RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauI74

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

a

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na F3230 o bobl yn bresennol, neu

b

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na F1150 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau F30... sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5.

3

At ddibenion is-baragraff (1)

a

nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

b

mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na F3630 neu 50 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

c

nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

i

arddangosiad ffilm;

ii

perfformiad mewn theatr;

iii

marchnad;

iv

gwasanaeth crefyddol;

v

digwyddiad chwaraeon elît nad yw ond athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yn bresennol ynddo.

Digwyddiadau awdurdodedigI25

1

Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal—

a

lle y mae mwy na F3330 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, neu

b

lle y mae mwy na F1350 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored;

2

Nid yw’r cyfeiriadau yn is-baragraff (1) at niferoedd o bobl yn cynnwys personau F8... sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

3

Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â digwyddiad penodol neu ddisgrifiad penodol o ddigwyddiadau.

4

O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)

a

rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a

b

caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

a

awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a

b

manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â digwyddiad sydd i’w gynnal o dan yr awdurdodiad.

6

Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.

7

Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan baragraff (6)

a

onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu

b

onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.

RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 2 ac o ardal Lefel Rhybudd 2F4I66

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

Cau mangreoedd a ddefnyddir gan fusnesau a gwasanaethau penodolI97

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal neu ddarparu busnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 9 neu 10

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

b

ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer F27...;

d

defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

3

Pan—

a

bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedigF5I88

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Busnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoeddI59

Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I4I510

Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

F2211

Rinciau sglefrio iâ.