ATODLEN 2Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2
RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull
Aelwydydd estynedigI13
1
Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.
2
Yn ychwanegol at y 2 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd un oedolyn hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.
3
Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i’r holl aelodau o’r 2 aelwyd sy’n oedolion gytuno.
4
Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig.
5
Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan baragraff 3 o Atodlen 1 dim ond rhwng yr aelwydydd hynny y caniateir gwneud cytundeb o dan y paragraff hwn.
6
Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—
a
paragraff 3 o Atodlen 3, neu
b
paragraff 3 o Atodlen 4,
mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.
7
Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
8
Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall.
9
Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.