ATODLEN 2Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2
RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull
Aelwydydd estynedigI13
1
Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.
2
3
Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid F8i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.
4
Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F9ar unrhyw un adeg .
F75
Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.
6
Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—
a
paragraff 3 o Atodlen 3, neu
F6aa
paragraff 4 o Atodlen 3A,
b
paragraff 3 o Atodlen 4,
mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.
7
Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd F3... yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
F57A
Mae is-baragraff (7B) yn gymwys—
a
pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a
b
pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.
7B
Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—
a
mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a
b
mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (7) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).
8
Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F1oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno .
9
Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.
F210
Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—
a
aelwyd un oedolyn;
b
aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.