ATODLEN 2LL+CCyfyngiadau Lefel Rhybudd 2

RHAN 1LL+CCyfyngiadau ar ymgynnull

Aelwydydd estynedigLL+C

3.—(1Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

(2Yn ychwanegol at y 2 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd [F1anghenion llesiant] hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.

(3Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid [F2i holl aelodau’r aelwydydd] gytuno.

(4Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig [F3ar unrhyw un adeg] .

[F4(5) Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.]

(6Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—

(a)paragraff 3 o Atodlen 3, neu

[F5(aa)paragraff 4 o Atodlen 3A,]

(b)paragraff 3 o Atodlen 4,

mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.

(7Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd F6... yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

[F7(7A) Mae is-baragraff (7B) yn gymwys—

(a)pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

(b)pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

(7B) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

(b)mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (7) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).]

(8Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall [F8oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno] .

(9Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

[F9(10) Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

(a)aelwyd un oedolyn;

(b)aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.]

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn Atod. 2 para. 3(2) wedi eu hamnewid (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(5)(a)(i)

F2Geiriau yn Atod. 2 para. 3(3) wedi eu hamnewid (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(5)(a)(ii)

F6Gair yn Atod. 2 para. 3(7) wedi ei hepgor (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(5)(a)(iii)

F7Atod. 2 para. 3(7A)(7B) wedi ei fewnosod (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(5)(a)(iv)

F9Atod. 2 para. 3(10) wedi ei fewnosod (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(5)(a)(v)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)