ATODLEN 2Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2
RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau
Digwyddiadau awdurdodedigI15
1
Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal—
a
lle y mae mwy na F330 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, neu
b
lle y mae mwy na F250 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored;
2
3
Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â digwyddiad penodol neu ddisgrifiad penodol o ddigwyddiadau.
4
O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)—
a
rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a
b
caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—
a
awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a
b
manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â digwyddiad sydd i’w gynnal o dan yr awdurdodiad.
6
Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.
7
Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan baragraff (6)—
a
onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu
b
onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.