ATODLEN 2Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2
RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol
Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedigI18
1
Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.
2
Pan fo’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, o ran y person sy’n gyfrifol am y fangre—
a
ni chaiff werthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre ond fel rhan o bryd bwyd wrth y bwrdd y gellid disgwyl iddo gael ei weini fel brecwast, prif bryd bwyd canol dydd neu brif bryd bwyd gyda’r hwyr, neu ei weini fel prif gwrs mewn pryd bwyd o’r fath,
b
rhaid iddo gau’r fangre (i gwsmeriaid) am neu cyn 10.20 p.m. bob dydd, a
c
ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.
3
Er gwaethaf is-baragraff (2), caiff sinema neu theatr gau’n hwyrach na 10.20 p.m. ond dim ond at ddiben gorffen—
a
arddangos ffilm, neu
b
perfformiad,
sy’n dechrau cyn 10.00 p.m.
4
Nid yw is-baragraff (2)(b) ac (c) yn gymwys i—
a
mangre mewn—
i
porthladd môr;
ii
maes awyr;
iii
sefydliad addysgol;
b
ffreuturau yn y gweithle.
5
O ran ei gymhwysiad i fangre llety gwyliau neu lety teithio, nid yw is-baragraff (2) ond yn gymwys i’r rhannau hynny o’r fangre lle y gwerthir neu y cyflenwir alcohol i’w yfed yn y fangre.
6
7
Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae is-baragraffau (2) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.