xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CCyfyngiadau Lefel Rhybudd 2

RHAN 4LL+CCyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedigLL+C

8.—(1Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

(2Pan fo’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, o ran y person sy’n gyfrifol am y fangre—

(a)ni chaiff werthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre ond fel rhan o bryd bwyd wrth y bwrdd y gellid disgwyl iddo gael ei weini fel brecwast, prif bryd bwyd canol dydd neu brif bryd bwyd gyda’r hwyr, neu ei weini fel prif gwrs mewn pryd bwyd o’r fath,

(b)rhaid iddo gau’r fangre (i gwsmeriaid) am neu cyn 10.20 p.m. bob dydd, a

(c)ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.

(3Er gwaethaf is-baragraff (2), caiff sinema neu theatr gau’n hwyrach na 10.20 p.m. ond dim ond at ddiben gorffen—

(a)arddangos ffilm, neu

(b)perfformiad,

sy’n dechrau cyn 10.00 p.m.

(4Nid yw is-baragraff (2)(b) ac (c) yn gymwys i—

(a)mangre mewn—

(i)porthladd môr;

(ii)maes awyr;

(iii)sefydliad addysgol;

(b)ffreuturau yn y gweithle.

(5O ran ei gymhwysiad i fangre llety gwyliau neu lety teithio, nid yw is-baragraff (2) ond yn gymwys i’r rhannau hynny o’r fangre lle y gwerthir neu y cyflenwir alcohol i’w yfed yn y fangre.

(6Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn caniatáu i’r fangre fod ar agor, nac i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi, yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.

(7Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae is-baragraffau (2) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)