ATODLEN 2Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedig8

1

Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

2

Pan fo’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, o ran y person sy’n gyfrifol am y fangre—

a

ni chaiff werthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre ond fel rhan o bryd bwyd wrth y bwrdd y gellid disgwyl iddo gael ei weini fel brecwast, prif bryd bwyd canol dydd neu brif bryd bwyd gyda’r hwyr, neu ei weini fel prif gwrs mewn pryd bwyd o’r fath,

b

rhaid iddo gau’r fangre (i gwsmeriaid) am neu cyn 10.20 p.m. bob dydd, a

c

ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.

3

Er gwaethaf is-baragraff (2), caiff sinema neu theatr gau’n hwyrach na 10.20 p.m. ond dim ond at ddiben gorffen—

a

arddangos ffilm, neu

b

perfformiad,

sy’n dechrau cyn 10.00 p.m.

4

Nid yw is-baragraff (2)(b) ac (c) yn gymwys i—

a

mangre mewn—

i

porthladd môr;

ii

maes awyr;

iii

sefydliad addysgol;

b

ffreuturau yn y gweithle.

5

O ran ei gymhwysiad i fangre llety gwyliau neu lety teithio, nid yw is-baragraff (2) ond yn gymwys i’r rhannau hynny o’r fangre lle y gwerthir neu y cyflenwir alcohol i’w yfed yn y fangre.

6

Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn caniatáu i’r fangre fod ar agor, nac i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi, yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.

7

Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae is-baragraffau (2) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.