ATODLEN 2Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2

RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 2 ac o ardal Lefel Rhybudd 2I16

1

Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw—

a

mewn ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau, neu

b

mewn ardal Lefel Rhybudd 3 neu Lefel Rhybudd 4,

fynd i ardal Lefel Rhybudd 2 neu aros mewn ardal Lefel Rhybudd 2 heb esgus rhesymol.

2

Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn ardal Lefel Rhybudd 2, heb esgus rhesymol, ymadael â’r ardal at ddibenion mynd i’r ardaloedd a ganlyn neu aros ynddynt—

a

ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau;

b

ardal Lefel Rhybudd 3 neu Lefel Rhybudd 4.

3

At ddibenion is-baragraffau (1) a (2), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn mynd i’r ardal neu’n ymadael â’r ardal at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.

4

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol ymarferol i berson fynd i’r ardal neu ymadael â’r ardal atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

i

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael gwasanaethau addysgol;

j

cael—

i

bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;

ii

cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;

k

cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 39(g) o Atodlen 7 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;

l

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).

5

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas;

d

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

e

athletwr elît ac yn teithio at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;

f

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—

i

digwyddiad chwaraeon elît, neu

ii

digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i Gymru;

g

teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad;

h

teithio ar daith sydd—

i

mewn perthynas â’r cyfyngiad yn is-baragraff (1), yn dechrau ac yn gorffen y tu allan i’r ardal, neu

ii

mewn perthynas â’r cyfyngiad yn is-baragraff (2), yn gorffen mewn ardal nad yw’r person wedi ei wahardd rhag mynd iddi neu aros ynddi o dan yr is-baragraff hwnnw,

ar yr amod bod y person yn cymryd pob mesur sy’n rhesymol ymarferol i stopio cyn lleied ag y bo modd yn ystod y daith;

i

teithio i gymryd rhan mewn cynulliad gydag aelwyd estynedig y person yn unol ag unrhyw gyfyngiadau ar gynulliadau sy’n gymwys lle y mae’r cynulliad yn digwydd.