F1ATODLEN 3Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3
RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull
Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifat1
1
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.
2
Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.
3
Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—
a
unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd, neu
b
gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
4
At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
a
os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
b
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.
5
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
a
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
b
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;
c
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
d
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
e
symud cartref;
f
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
g
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
6
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—
a
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
b
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
c
gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, neu’n cael gwasanaethau oddi wrth berson sy’n gweithio yn y fangre neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
d
cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—
i
yn byw yn yr un fangre, a
ii
yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.
7
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Cyfyngiad ar gynulliadau mewn llety gwyliau neu lety teithio2
1
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.
2
Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.
3
Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—
a
unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd, neu
b
gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
4
At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
a
os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
b
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.
5
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
a
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
b
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;
c
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
d
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto.
6
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—
a
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
b
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
c
gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
d
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
i
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,
ii
os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
e
cymryd rhan mewn cynulliad o dan do o ddim mwy na 15 o bobl mewn llety gwyliau neu lety teithio, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—
i
dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;
ii
dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020,
lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
f
cymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 30 o bobl mewn llety gwyliau neu lety teithio, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—
i
dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;
ii
dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;
g
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
i
lle nad yw mwy na 15 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a
ii
lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
h
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
i
lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a
ii
lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
i
mynd i ddigwyddiad neu hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 6.
7
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddus3
1
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn mangre nad yw paragraff 1 na 2 yn gymwys iddi oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.
2
Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath—
a
yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad;
b
yn yr awyr agored ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig—
i
os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad, neu
ii
os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd estynedig.
3
Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—
a
unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd, neu
b
gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
4
At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
a
os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
b
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.
5
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
a
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
b
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
c
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
d
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
e
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
f
symud cartref;
g
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
h
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
i
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;
j
ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, â chaniatâd darparwr y gwasanaeth.
6
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—
a
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
b
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
c
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
i
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,
ii
os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
d
mynd i angladd—
i
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
ii
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
e
cymryd rhan mewn cynulliad o dan do o ddim mwy na 15 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—
i
dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;
ii
dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020,
lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
f
cymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—
i
dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;
ii
dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;
g
mynd i addoldy;
h
athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;
i
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;
j
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
i
lle nad yw mwy na 15 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a
ii
lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
k
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
i
lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, oni bai bod y gweithgaredd wedi ei drefnu at ddibenion protestio, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, a
ii
lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
l
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);
m
mynd i ddigwyddiad neu hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 6.
7
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Aelwydydd estynedig4
1
Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.
2
Yn ychwanegol at y 2 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd anghenion llesiant hefyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig honno.
3
Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.
4
Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn 1 aelwyd estynedig ar unrhyw un adeg.
5
Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag unrhyw aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.
6
Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—
a
paragraff 3 o Atodlen 2,
b
paragraff 4 o Atodlen 3A, neu
c
paragraff 3 o Atodlen 4,
mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.
7
Mae aelwyd yn peidio â cael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
8
Mae is-baragraff (9) yn gymwys—
a
pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a
b
pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.
9
Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—
a
mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a
b
mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (7) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).
10
Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig ag unrhyw aelwyd arall oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gyda’r aelwyd honno.
11
Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.
12
Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—
a
aelwyd un oedolyn;
b
aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.
RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau
Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau5
1
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—
a
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu
b
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,
heb gyfrif personau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.
2
Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 6.
3
At ddibenion is-baragraff (1)—
a
nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;
b
mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;
c
nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—
i
arddangosiad ffilm mewn sinema o sedd cerbyd;
ii
perfformiad mewn theatr o sedd cerbyd;
iii
marchnad;
iv
gwasanaeth crefyddol;
v
digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol.
Digwyddiadau awdurdodedig6
1
Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal—
a
lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, neu
b
lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored.
2
Nid yw’r cyfeiriadau yn is-baragraff (1) at niferoedd o bobl yn cynnwys personau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.
3
Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â digwyddiad penodol neu ddisgrifiad penodol o ddigwyddiadau.
4
O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)—
a
rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a
b
caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—
a
awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a
b
manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â digwyddiad sydd i’w gynnal o dan yr awdurdodiad.
6
Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.
7
Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan is-baragraff (6)—
a
onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu
b
onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.
RHAN 3Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol
PENNOD 1Busnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt
Cau mangreoedd o dan do busnesau bwyd a diod7
1
Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 11 i 13 (busnesau bwyd a diod) gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw ran o’i fangre sydd o dan do ac a ddefnyddir i fwyta bwyd neu i yfed diod.
2
Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
a
defnyddio mangre ar gyfer—
i
gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu
ii
gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;
b
darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);
c
ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;
d
defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
e
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.
3
Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i—
a
caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr;
b
ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.
4
At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel pe bai’n rhan o fangre’r busnes hwnnw.
5
Pan—
a
bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
b
bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
Cau llety gwyliau neu lety teithio nad yw’n hunangynhwysol8
1
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 14 i 17 (llety gwyliau neu lety teithio)—
a
rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
b
ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.
2
Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio mangre ar gyfer darparu llety—
a
mewn safle gwersylla neu safle gwyliau, ar yr amod mai pwyntiau dŵr a phwyntiau gwaredu gwastraff yw’r unig gyfleusterau a rennir a ddefnyddir gan westeion yn y safle gwersylla neu’r safle gwyliau, neu
b
mewn mangreoedd ar wahân a hunangynhwysol.
3
Ac nid yw is-baragraff (1) yn atal—
a
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
b
defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
c
darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—
i
nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu
ii
sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;
d
defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
i
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
ii
dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu
iii
drwy’r post.
4
Nid yw mangre ar wahân ac yn hunangynhwysol at ddibenion y paragraff hwn ond—
a
os y’i darperir i bersonau sy’n aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, a
b
os na rennir unrhyw un neu ragor o’r canlynol ag aelodau o unrhyw aelwyd arall—
i
ceginau,
ii
mannau cysgu,
iii
ystafelloedd ymolchi, neu
iv
mannau cymunedol o dan do.
5
Yn y paragraff hwn—
a
nid yw derbynfa i’w thrin fel pe bai’n gyfleuster a rennir at ddibenion is-baragraff (2)(a);
b
mae “mannau cymunedol” yn cynnwys unrhyw ardal o’r fangre sydd ar agor i’r cyhoedd, ond nid yw’n cynnwys derbynfa na choridorau, lifftiau na grisiau a ddefnyddir i fynd i rannau eraill o’r fangre.
6
Pan—
a
bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
b
bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
PENNOD 2Busnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd
Cau busnesau a gwasanaethau9
1
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 18 i 35—
a
rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a
b
ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.
2
O ran ei gymhwysiad i fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 27 (ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema), 28 (busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau), 29 (amgueddfeydd ac orielau), 32 (parciau a chanolfannau trampolîn), 33 (sbaon), 34 (lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau)) a 35 (atyniadau i ymwelwyr), nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i—
a
ardal gyhoeddus awyr agored o’r fangre, neu
b
ardal gyhoeddus o dan do o’r fangre pan fo’n angenrheidiol i’r ardal o dan do fod ar agor—
i
i ganiatáu mynediad i ardal gyhoeddus awyr agored,
ii
am resymau iechyd a diogelwch, neu
iii
i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion yn Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r fangre.
3
Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
a
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
b
defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
c
defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer;
d
defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—
i
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
ii
dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
iii
drwy’r post;
e
defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—
i
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
ii
dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
iii
drwy’r post.
4
Er gwaethaf is-baragraff (1), caiff person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth—
a
a restrir ym mharagraff 28 (busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau) agor ardaloedd o dan do ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion hwyluso gweithgaredd wedi ei drefnu er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);
b
a restrir ym mharagraff 33 (sbaon) agor ardaloedd o dan do ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion darparu, drwy apwyntiad, wasanaethau cysylltiad agos neu wasanaethau a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr, optometryddion, awdiolegwyr, ciropodyddion, ceiropractyddion, osteopathiaid, ffisiotherapyddion ac aciwbigwyr.
5
Pan—
a
bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
b
bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
PENNOD 3Busnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd wedi eu hesemptio rhag y gofyniad i gau
Esemptiad rhag y gofyniad i gau10
1
Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon—
a
caiff mangre a gymeradwywyd agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall yn y fangre;
b
caiff mangre a ddefnyddir fel lleoliad ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath, agor i’r cyhoedd at ddibenion galluogi person i ymweld â’r fangre, drwy apwyntiad, gyda golwg ar archebu’r fangre ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath.
2
Yn y paragraff hwn, ystyr “mangre a gymeradwywyd” yw mangre sydd wedi ei chymeradwyo yn unol â Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005—
a
fel mangre y caniateir i briodasau gael eu gweinyddu ynddi yn unol ag adran 26(1)(bb) o Ddeddf Priodas 1949, neu
b
at ddibenion adran 6(3A)(a) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004.
PENNOD 4Rhestr o fangreoedd caeedig neu rannol gaeedig
Mangreoedd caeedig neu rannol gaeedigBusnesau bwyd a diod
11
Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).
12
Tafarndai.
13
Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).
Llety gwyliau neu lety teithio
14
Safleoedd gwersylla.
15
Safleoedd gwyliau.
16
Gwestai a llety gwely a brecwast.
17
Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).
Hamdden a chymdeithasol etc.
18
Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.
19
Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).
20
Sinemâu, ac eithrio sinemâu o sedd cerbyd.
21
Neuaddau cyngerdd a theatrau, ac eithrio theatrau o sedd cerbyd.
22
Casinos.
23
Neuaddau bingo.
24
Arcedau diddanu.
25
Alïau bowlio.
26
Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.
27
Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.
28
Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.
29
Amgueddfeydd ac orielau.
30
Rinciau sglefrio iâ.
31
Parciau a chanolfannau trampolîn.
32
Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.
33
Sbaon.
34
Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).
35
Atyniadau i ymwelwyr.
Atod. 3 wedi ei amnewid (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(14)