ATODLEN 3Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3
RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau
Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauI14
1
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—
a
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu
b
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,
heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.
2
3
At ddibenion is-baragraff (1)—
a
nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;
b
mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;
c
nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—
i
arddangosiad ffilm mewn sinema o sedd cerbyd;
ii
perfformiad mewn theatr o sedd cerbyd;
iii
marchnad;
iv
gwasanaeth crefyddol.